Menter Gymdeithasol - " Gwin Newydd mewn Hen Boteli"

Y canfyddiad presennol o Fenter Gymdeithasol a gyflwynir yn y wasg, ac sy’n cael ei gefnogi gan nifer o fewn y sector, ydy model newydd ar gyfer busnes, yn union fel unrhyw fusnes arall, rhyw ddull lled-breifat a fabwysiadir ar gyfer anghenion y Trydydd Sector a’r hil newydd o ‘entrepreneuriaid’ newydd sydd â chydwybod gymdeithasol, wedi’i hysbrydoli gan The Apprentice. Er na fyddai unrhyw un yn gwadu bod angen craffter busnes da a dulliau mentrus y peryg ydy y gallwn ni basio heibio traddodiadau radical a gwreiddiau mentrau cymdeithasol sydd â chysylltiadau agos, a natur ein sefydliad. Mae Steve Wyler o DTA yn amlinellu isod peth o’r hanes a’r ysbrydoliaeth, ar gyfer pobl a chymunedau heddiw.

Ein traddodiad cyfoethog

Rydym yn ymdrechu dros berchnogaeth gymunedol o dir ac adeiladau, dros fentrau wedi’i harwain gan y gymuned lle mae’r elw yn cael ei fuddsoddi er lles pawb, a thros gymunedau hunanbenderfynol, sydd o faint a strwythur digonol i gynhyrchu cyfalaf cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd.

Mae gan hyn i gyd wreiddiau dwfn yn ein gorffennol. Mae elfennau creiddiol o fewn ein gweledigaeth, gydag amrywiaethau oherwydd iaith ac amgylchiadau, i’w canfod mewn cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth yn Lloegr, mor bell yn ôl a’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Mae cymunedau difeddiant wedi dychwelyd dro ar ôl tro at y syniadau syml, ond difrifol hyn, fel modd o oresgyn tlodi, o gyflawni cyfiawnder cymdeithasol a chreu gwell ffordd o fyw.

Yn eu dydd, roedd nifer fawr o arloeswyr mentrau cymdeithasol yn cael eu hystyried yn od neu hyd oed yn wallgof. Dim ond nawr mae modd gweld mai nhw oedd y rhai oedd â’r craffter, ac oedd yn gweithredu gyda gweledigaeth a dewrder.

Mae’r hyn rydym ni yn ei wneud yn deillio o draddodiad hir, bywiog a chyfoethog. Mae gwybod hyn yn ein gwneud yn gryfach.


Steve Wyler - Cyfarwyddwr
Development Trusts Association