Deall Jargon

English    
Pembrokeshire landscape.

Jargon

Part of this jargon buster has been repoduced with kind permission of Social Enterprise Magazine

Rhestrir yma y geiriau a’r ymadroddion mwyaf cyffredin yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws yn y sector mentrau cymdeithasol

a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z

A

Datblygiad ased seiliedig

Strategaeth ddatblygu sy’n cydnabod mai meddiant asedau diriaethol (tir, adeiladau neu incwm pwrpasol) yw’r allwedd i gyrraedd nodau hunanddigonolrwydd, annibyniaeth a chynaliadwyedd sy’n cynnal mudiadau adfywio cymunedol.

Yn ôl i’r brig

 

B

Gwerth gorau

Y trefniadau presennol ar gyfer adolygu effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac economi gwasanaethau’r sector cyhoeddus, a’r ffordd o fesur gwerth am arian mewn gwaith caffael yn y sector cyhoeddus..

Bioamrywiaeth

Amryfaldeb, neu amrywiaeth, planhigion, anifeiliaid neu bethau byw eraill mewn ardal neu ranbarth arbennig. Mae’r term yn cwmpasu amryfaldeb cynefinoedd, amryfaldeb rhywogaethau ac amryfaldeb genetig. Mae bioamrywiaeth yn werthfawr ynddo’i hun ac mae iddo werth cymdeithasol ac economaidd i’r gymdeithas ddynol.

Tir llwyd

Unrhyw dir neu eiddo a gafodd ei ddefnyddio neu ei ddatblygu yn y gorffennol ac nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, er y gall fod yn cael ei ddefnyddio’n rhannol. Gall y tir fod hefyd yn wag, yn ddiffaith neu’n llygredig ond nid yw’n cynnwys parciau, caeau chwarae, rhandiroedd a thir ble y mae gweddillion defnydd blaenorol wedi dod yn rhan o’r tirlun, neu ble y cawsant eu goddiweddyd gan gadwraeth natur neu ddefnydd amwynderol.

Yn ôl i’r brig

 

C

Adeiladu gallu

Datblygu medrau a gwybodaeth a phrofiad mewn cymunedau lleol er mwyn cynyddu gallu a pharodrwydd aelodau’r gymuned i symbylu prosiectau, rhaglenni a busnesau, er mwyn trefnu’r mentrau hyn a’u cadw i fynd.

Elusennau

Mae statws elusennol ar gael i bob mudiad a chanddynt bwrpasau a gweithgareddau cwbl elusennol eu natur, boed yn lleddfu tlodi, hyrwyddo crefydd neu addysg neu ‘bwrpasau eraill sy’n llesol i’r gymuned’. Mae statws elusennol yn cynnig manteision trethiannol mawr iawn ond mae masnachu’n gyfyngedig ac mae’n rhaid iddo fod yn gydnaws â’r pwrpas elusennol; mae felly’n addas i rai mentrau cymdeithasol ond nid i bob un. Mae gan sawl elusen yn y sector gwirfoddol ganghennau masnachu - eu mentrau cymdeithasol eu hunain - er mwyn cynhyrchu incwm i gynnal eu nodau elusennol.

Clwstwr

Mudiadau neu fentrau sy’n ceisio gwella eu perfformiad masnachol trwy ffurfiau uniongyrchol ac anuniongyrchol o gydweithio, neu o rannu adnoddau, cwsmeriaid, mewnbynnau, sy’n aml yn creu manteision lleoliadol trwy fod yn agos at ei gilydd.


Cymunedau’n Gyntaf

Mae Cymunedau’n Gyntaf yn un o brif raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n anelu at dorri tlodi a helpu gwella bywydau pobl sy’n byw yn yr ardaloedd tlotaf.

Rhwydwaith Cynhaliol Cymunedau’n Gyntaf

Mae Rhwydwaith Cynhaliol Cymunedau’n Gyntaf yn bartneriaeth ffurfiol o naw mudiad yn y sector gwirfoddol sy’n cynnig cynhaliaeth bwrpasol i raglen Cymunedau’n Gyntaf.

Bond cyffredin

Mae gan bob undeb credyd fond cyffredin. Nhw’n sy’n penderfynu pwy sy’n cael ymuno â nhw. Mae pedwar math. Mae bond cymunedol neu breswyliol yn cyfeirio at unrhyw un sy’n byw mewn ardal ddaearyddol arbennig. Mae bond byw neu waith yn cyfeirio at bobl sy’n byw a gweithio mewn ardal ddaearyddol arbennig. Mae bond cyflogaeth neu ddiwydiannol yn cyfeirio at holl weithwyr cwmni neu grŵp o gwmnïau. Mae bond cysylltiaethol yn cyfeirio at aelodaeth undeb llafur, cymdeithas fasnachol neu grŵp arall.

Busnes cymunedol

Sefydliad masnachu a sefydlir gan y gymuned leol ac sy’n eiddo iddi ac yn cael ei reoli ganddi ac sy’n anelu at greu cyflogaeth hunangynhaliol i bobl leol ac sydd hefyd yn cynnig canolbwynt ar gyfer gwaith datblygu lleol. Mae’r term busnes cymunedol yn cael ei ddefnyddio’n aml gan fentrau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar farchnadoedd a gwasanaethau lleol.

Cynlluniau gofal cymunedol

Cynlluniau sydd ar gael yn gyhoeddus ar gyfer pob awdurdod lleol sy’n amlinellu neu’n diweddaru darpariaeth neu strategaeth ar gyfer gofal cymunedol lleol.

Sefydliadau cyllid datblygu cymunedol (CDFI)

Darparydd gwasanaethau ariannol (efallai’n fanc cymunedol, cronfa benthyciadau cymunedol neu gronfa mentro datblygu cymunedol) sy’n anelu at gyflawni amcanion cymdeithasol. Maen nhw’n benthyca a buddsoddi mewn ardaloedd a marchnadoedd difreintiedig nad ydynt yn gallu manteisio ar gyllid prif ffrwd, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Mae sefydliadau CDFI yn canolbwyntio’n benodol ar wasanaethau ariannol i fusnesau a mudiadau yn yr economi gymdeithasol yn hytrach nag unigolion. Er bod rhai mathau o CDFI yn cael eu rheoleiddio’n fanciau neu gymdeithasau adeiladu, nid oes gan y rhan fwyaf ohonynt statws cymryd adneuon. Y ffurfiau cyfreithiol a ddefnyddir amlaf yw’r gymdeithas ddiwydiannol a darbodus (IPS) a, law yn llaw â statws elusennol, y cwmni cyfyngedig trwy warant.

Cronfa cyfalaf menter datblygu cymunedol

Cronfa cyfalaf menter, sy’n cael ei rhedeg i wneud elw, gaiff ei thargedu at gymunedau sy’n brin o fuddsoddiadau.

Mentrau cymunedol

Mudiadau cymunedol sy’n masnachu at ddibenion cymdeithasol fel bod gorgedion yn cael eu hail-fuddsoddi i ddatblygu mwy o waith menter trwy gael perchnogaeth gymunedol ar dir ac adeiladau er lles cymdeithasol a chymunedol. Maen nhw’n rhannu’r un cyfuniad o fentrau mentergarol a dibenion cymdeithasol â mentrau cymdeithasol.

Fodd bynnag, mae Mentrau Cymunedol yn wahanol gan eu bod yn canolbwyntio ar gymuned lle neu fudd ac yn darparu gwasanaethau lleol i bobl leol - ac yn aml hefyd yn cyflogi pobl leol. Mae Ymddiriedolaethau Datblygu yn fodel o fenter gymunedol sy’n cyfuno’r gwaith o ddarparu nifer o wasanaethau lleol gwahanol.

Cwmni Budd Cymunedol (CIC)

Math cyfreithiol newydd o fenter gymunedol. Maen nhw’n cyfuno nodweddion cwmni gyda rhai elfennau o fudiad elusennol (hy ni ellir gwerthu asedau er budd preifat). Bydd cwmnïau CIC yn adrodd i reoleiddydd annibynnol ar sut y maent yn cyflawni er lles y gymuned ac ar sut y maent yn cynnwys eu budd-ddeiliaid yn eu gweithgareddau.

Gostyngiad Treth Buddsoddiad Cymunedol

Mantais drethiannol i annog buddsoddiadau mewn Sefydliadau Cyllid Cymunedol. Telir gostyngiad o 5% y.f. am hyd at 5 mlynedd ar fuddsoddiadau mewn sefydliadau CDFI achrededig

Cronfa benthyciadau cymunedol

Mae cronfa benthyciadau cymunedol yn CDFI sy’n cynnig benthyciadau.

• Cwmni cyfyngedig trwy warant

Cwmni a gofrestrwyd gyda Thŷ’r Cwmnïau a chanddo aelodau yn hytrach na chyfranddalwyr; mae aelodau’n gwarantu swm enwol i dalu rhwymedigaethau a gallant hefyd dalu tanysgrifiad aelodaeth rheolaidd. Mae Elusennau, Ymddiriedolaethau Datblygu, Cwmnïau Cymdeithasol a Busnesau Cymunedol yn aml yn defnyddio’r math yma o ymgorfforiad.

Cwmni cyfyngedig trwy gyfranddaliadau

Cwmni a gofrestrwyd gyda Thŷ’r Cwmnïau a reolir gan ei gyfranddalwyr. Defnyddir y ffurf yma’n aml ar gyfer is-gwmnïau masnachu elusennau.

Tendro a chontractio cystadleuol

Trefniadau ar gyfer caffael gwasanaethau sy’n cynnwys tendro gan fwy nac un darpar ddarparydd. Caiff tendrau eu hasesu yn ôl meini prawf gwerth gorau sy’n asesu ansawdd a chost.

Gorchymyn pryniant gorfodol

Grym statudol a roddir i awdurdodau lleol pan na ellir cael cytundeb gyda pherchennog tir er mwyn gorfodi gwerthu tir a/neu adeiladau fel y gellir cyflawni amcanion polisi ehangach

Cwmni cydweithredol

Sefydliad sy’n eiddo i’w aelodau ac yn cael ei reoli ganddynt ac a ymgorfforwyd trwy’r Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus ac a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Fodd bynnag, mae’n bosib ymgorffori’n gwmni gydag egwyddorion cydweithredol. Nodwedd allweddol yw mai’r aelodau sy’n berchen arno ac yn ei reoli. Gall aelodau fod yn weithwyr (cwmni cydweithredol y gweithwyr), cwsmeriaid (cwmni cydweithredol y defnyddwyr), tenantiaid (cwmni cydweithredol tai) neu gyfuniad o’r grwpiau hyn (cwmni cydweithredol sawl budd-ddeiliad).

Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR)

Ystod eang o gysyniadau sy’n ymwneud â busnesau yn cyflawni eu gwaith yn gyfrifol. Mae’r ffactorau yn cynnwys effeithiau amgylcheddol, materion iechyd a diogelwch gweithwyr a chwsmeriaid, cyfranogiad mewn cymunedau lleol (bod yn gymydog da), llywodraethu corfforaethol da, materion cymdeithasol eraill a masnachu teg. Mae cefnogwyr CSR yn dadlau fod y materion hyn yn greiddiol i gynaliadwyedd hirdymor pob busnes a’u bod yr un mor berthnasol i fusnesau lleol bach ag ydynt i gwmnïau mawr amlwladol.

Undeb credyd

Cwmni ariannol cydweithredol, sy’n eiddo i’w aelodau ac yn cael ei reoli ganddynt. Yn ogystal â bod yn ddewis da ar gyfer cynilo, gan fod undebau credyd llwyddiannus yn talu difidend blynyddol o hyd at 8%, gellir defnyddio’r arian a gynilir i wneud benthyciadau llog isel i aelodau eraill yr undeb credyd. Dim ond pobl sy’n dod o fewn bond cyffredin yr undeb credyd all ymuno ag ef a defnyddio ei wasanaethau. Caiff yr undeb credyd ei reoli gan Fwrdd Cyfarwyddwyr gwirfoddol.

Yn ôl i’r brig

 

D

Ymddiriedolaethau datblygu

Mae ymddiriedolaethau datblygu yn fentrau sy’n cael eu creu gan gymunedau er mwyn symbylu datblygu cynaliadwy yn eu hardal. Maen nhw’n cyflawni nifer o wahanol weithgareddau a gwasanaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Fel mudiadau annibynnol nid er mwyn elw preifat, maen nhw’n ymrwymedig i gynnwys a bod yn atebol i bobl leol.

Y diffiniad o ymddiriedolaethau datblygu yw sefydliadau sy’n:

Nid yw ymddiriedolaeth ddatblygu yn endid cyfreithiol ynddi’i hun, ond mae fel arfer yn cael ei chofrestru’n gwmni neu’n Gymdeithas Elusennol a Darbodus. Mae llawer hefyd yn elusennau.

Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA)

Rhwydwaith a mudiad aelodaeth adfywio cymunedol a sefydlwyd yn 1992.

Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (DTA Cymru)

Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru yn cynnig cynhaliaeth i rwydwaith ffyniannus a chyflym ei dwf o ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru, a hi hefyd yw’r corff aelodaeth ar eu cyfer. Fe’i sefydlwyd ym mis Ionawr 2003, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, i gynnig cynhaliaeth yng Nghymru i’r rhwydwaith presennol o Ymddiriedolaethau Datblygu i weithio’n effeithiol ac i ddatblygu eu gweithgareddau ac i gynorthwyo cymunedau a mudiadau sy’n awyddus i sefydlu ymddiriedolaethau datblygu newydd ac i hyrwyddo arfer dda a rhwydwaith dysgu i ymarferwyr yng Nghymru.

Yn ôl i’r brig

 

E

Cyllid ecwiti

Arian a fuddsoddir mewn busnes ar ffurf cyfranddaliadau. Fel arfer mae gan fuddsoddwyr lais yn y gwaith o redeg y cwmni ac maen nhw hefyd yn cael difidend o’r elw.

Buddsoddiad moesegol

Buddsoddiad sy’n cael ei sgrinio i sicrhau nad oes ganddo unrhyw gysylltiadau â gweithgareddau na fyddai’r buddsoddydd yn dymuno eu cefnogi.

Yn ôl i’r brig

 

F

Masnach deg

Term sy’n cyfeirio at ffordd wahanol o gynnal masnach ryngwladol. Mae’n awgrymu partneriaeth fasnachu sy’n anelu at annog datblygu cynaliadwy ar gyfer cynhyrchwyr eithriedig a difreintiedig. Mae busnesau partner cynhaliol yn ceisio gwneud hyn trwy hyrwyddo a darparu gwell amodau masnachu, cynnal gweithgareddau codi ymwybyddiaeth ac ymgyrchu.

Yn ôl i’r brig

 

G

 

Yn ôl i’r brig

H

 

Yn ôl i’r brig

Cymdeithas Tai

Cwmnïau nid er mwyn elw sy’n gyfrifol am reoli stoc tai. Defnyddir y term i olygu’r un peth â Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) – sefydliadau nid er mwyn elw sy’n bodoli i ddarparu tai fforddiadwy.

Yn ôl i’r brig

 

I

Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus

Mae hwn yn gorff a ymgorfforwyd trwy’r Deddfau Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus, ac mae’n cynnwys cwmnïau cydweithredol, rhai ymddiriedolaethau datblygu a nifer o wahanol sefydliadau eraill. .

Prosiectau marchnad lafur rhyngol (ILM)

Mae’r rhain yn darparu hyfforddiant a phrofiad gwaith o fewn strwythur cynhaliol busnes cymunedol. Mae’r profiad gwaith yn aml yn parhau am flwyddyn ac mae’n cynnig carreg sarn i gael gwaith.

Yn ôl i’r brig

 

J

 

Yn ôl i’r brig

 

K

Economi Gwybodaeth

Economi sy’n cynnig yr amodau ar gyfer datblygu syniadau newydd y gellir masnachu eu gwerth, er enghraifft, trwy gynllunio a chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau gwerth uchel. Mae’n wahanol i economi sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gynhyrchu trwy ddefnyddio syniadau sy’n bod yn barod.

Yn ôl i’r brig

 

L

Rhyngolion Marchnad Lafur

Sefydliadau cymunedol sy’n agos at bobl leol, sy’n gallu trin a thrafod materion diweithdra a deall anghenion busnes. Maen nhw’n cynnig gwasanaethau dod o hyd i swyddi, broceriaid ac yn cynnal pobl yn ystod eu misoedd cyntaf mewn gwaith.

• LETS

Mae’r term LETS yn golygu cynlluniau masnachu cyfnewid lleol. Maen nhw’n rhwydweithiau cymorth cilyddol cymunedol sy’n caniatáu i bobl gyfnewid nwyddau a gwasanaethau heb orfod defnyddio arian. Maen nhw’n fath ffurfiol o ffeirio

Yn ôl i’r brig

 

M

Lle gwaith rheoledig

Adeiladau sy’n cynnig llety ar gyfer busnesau hen a newydd. Yn ogystal â lle i’w lesio, mae busnesau newydd hefyd yn gallu manteisio ar hyfforddiant a chyngor. Maen nhw hefyd yn cynnig ffynhonnell incwm fel ‘Asedau Cymunedol’ i sefydliadau menter gymunedol fel Ymddiriedolaethau Datblygu.

Micro-fenter

Busnes bach iawn, sydd fel arfer yn cael ei ddiffinio’n "fusnes gyda llai na 10 o staff". Fe’i ddiffinnir weithiau’n “fusnes gyda llai na 5 o staff". Mae gan 89% o holl fusnesau’r DG lai na 5 gweithiwr. Mae rhai Mentrau Cymdeithasol fel ymddiriedolaethau datblygu yn rhedeg rhaglenni i gynorthwyo micro-fentrau.

• Micro-gyllid

Cyfeiria’r term hwn at gyfleusterau cynilion a benthyciadau bychain gydag isafswm adnau bychan iawn (neu ddim o gwbl). Mae hefyd yn cyfeirio at wasanaethau ariannol eraill fel yswiriant, trosglwyddiadau ariannol a thalu biliau wedi’u hanelu at bobl ar incwm isel

Cronfa micro-fenthyciadau

Cronfa sy’n darparu benthyciadau bychain (sy’n golygu ei fod felly’n fath arbennig o ficro-gyllid). Mae cronfa micro-fenthyciadau yn fath arbenigol o wasanaeth ariannol sy’n seiliedig ar gynhyrchion penodol wedi’u hanelu at ficro-fentrau ac sy’n fwy na mater syml o ddarparu benthyciadau bychain iawn achlysurol.

Cilyddoli

Cyfeiria’r term hwn at y defnydd cynyddol o fudiadau cilyddol er mwyn darparu gwasanaethau trwy gontract i awdurdodau lleol.

Cilyddolion

Mudiadau cilyddol yw rhai y mae eu haelodau wedi uno gyda’i gilydd gyda phwrpas cyffredin i ddarparu gwasanaeth cyffredin o fantais i bob un ohonynt. Cânt eu cyfansoddi’n gyfreithiol mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae strwythurau busnesau cilyddol yn cynnwys cwmnïau cydweithredol, cymdeithasau adeiladu a busnesau eraill sy’n eiddo i’w gweithwyr.

Yn ôl i’r brig

 

N

• NEF

Sefydliad Economeg Newydd (New Economics Foundation)

Di elw neu nid er mwyn elw neu nid er mwyn elw dosbarthol

Termau a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio cwmnïau fel mentrau cymunedol a gwirfoddol neu gymdeithasol sydd efallai’n gwneud elw, ond nad ydynt yn dosbarthu eu helw i gyfranddalwyr, ac sydd yn eu defnyddio’n hytrach (a elwir hefyd yn ‘orged’ yn y cyd-destun hwn) er budd cymdeithasol neu gymunedol neu i’w ail-fuddsoddi er mwyn cyflawni eu nodau cymdeithasol.

Yn ôl i’r brig

 

O

 

Yn ôl i’r brig

P

Cyfalaf Amyneddgar

Dewis arall yn lle cyllid ecwiti preifat, ble y bydd rhan o’r adenillion disgwyliedig i fuddsoddwyr yn gymdeithasol yn hytrach nac ariannol. Diffiniad Banc Lloegr o’r trefniant hwn yw ‘cyllid hirdymor ar gyfer datblygu, ar delerau ystwyth, gan gynnwys ildio fawr ddim rheolaeth ac enillion ariannol is na’r farchnad, er mwyn cael enillion cymdeithasol yn eu lle’. Gall ddigwydd ar ffurf grantiau, benthyciadau neu ecwiti ‘buddsoddi’.

• Mantais cynllunio

Tir, adeiladau neu gyfleusterau eraill a ddarperir gan ddatblygwr fel rhan o’r amodau ar gyfer cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad.

Yn ôl i’r brig

 

Q

 

Yn ôl i’r brig

R

Adfywio

Rhaglen o ddatblygu lleol sy’n mynd i’r afael ag anfanteision ffisegol, cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd mewn ardaloedd gwledig a threfol

Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL)

Enw mwy cyffredin arnynt yw cymdeithasau tai; mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn sefydliadau annibynnol nid er mwyn elw sydd wedi’u cofrestru gyda’r Gorfforaeth Dai.

Yn ôl i’r brig

 

S

• SEC

Clymblaid Menter Gymdeithasol

Cytundebau Adran 106

Mae cytundebau adran 106 yn ymrwymiadau cynllunio ar bobl neu sefydliadau a chanddynt fudd mewn darn o dir. Y nod yw hwyluso gweithrediad polisïau cynllunio a awdurdodwyd gan Adran 106 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Cyfrifo cymdeithasol

Y broses o gasglu, dadansoddi ac adrodd gwybodaeth feintiol ac ansoddol er mwyn rhoi cyfrif o berfformiad ac effeithiau sefydliad o bersbectif cymdeithasol. Mae cyfrifo cymdeithasol hefyd yn gallu cynnwys perfformiad amgylcheddol neu economaidd.

Archwilio cymdeithasol

Y broses o wirio cyfrifon cymdeithasol i sicrhau eu bod yn ‘adio i fyny’. Mae sefydliad sy’n cynnal archwiliad cymdeithasol yn gwneud ei hun yn atebol i’w fudd-ddeiliaid ac yn ymrwymo’i hun i ddilyn argymhellion yr archwiliad.

Busnes cymdeithasol

Term a ddefnyddir weithiau gan fentrau cymdeithasol pan fod cnewyllyn bychan o aelodau sy’n gweithredu mewn ffordd debyg i ymddiriedolwyr. Mae’r busnesau cymdeithasol hyn yn canolbwyntio’n aml ar ddarparu incwm neu gyfle gwaith i grwpiau difreintiedig, neu ddarparu gwasanaeth i’r gymuned.

Cyfalaf cymdeithasol

Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r adnoddau ariannol - megis ymddiriedolaeth, partneriaeth, rhwydweithiau, perthnasoedd a gwerthoedd cyffredin - sy’n galluogi cymuned i ffynnu ac i weithio’n fwy effeithiol. Fe’i defnyddir hefyd i ddisgrifio gweithgareddau economaidd ac o fathau eraill y “ Trydydd Sector ” na cheir cyfrif ohonynt gan

Economi gymdeithasol

Fe’i gelwir weithiau y ‘trydydd sector’, ac mae’r rhan hon o’r economi yn bodoli rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus ac yn cynnwys mentrau cymdeithasol, elusennau a mudiadau gwirfoddol, sefydliadau, undebau llafur, cyrff crefyddol a chymdeithasau tai.

Menter gymdeithasol

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau deinamig a chanddynt bwrpas cymdeithasol sy’n gweithio ym mhob rhan o wledydd Prydain a thu hwnt i greu newid cymdeithasol ac amgylcheddol parhaol.

Entrepreneur cymdeithasol

Rhywun sy’n gweld ac yn rhoi bod i gyfleoedd busnes newydd ond sy’n cael ei gymell gan les cyhoeddus a chymdeithasol yn hytrach na chan yr awydd i wneud elw personol.

Eithrio cymdeithasol

Term llaw-fer yw hwn am yr hyn sy’n digwydd pan fo pobl neu grwpiau yn cael eu heithrio o gymdeithas ac o gyfleoedd am resymau fel tlodi, tarddiad ethnig, oed, diffyg medrau, iechyd gwael, incwm isel, hanes troseddol neu ryw.

Cwmni cymdeithasol

Busnes a grëwyd i ddarparu cyflogaeth a hyfforddiant integredig i bobl ag anabledd neu anfantais yn y farchnad lafur.

Cynhwysiad cymdeithasol

Y gallu i fanteisio ar ac elwa o’r cyfleoedd sydd ar gael i’r rhan fwyaf o aelodau cymdeithas

Gorged

Gelwir yr elw mewn nifer o fentrau cymdeithasol yn ‘orged’, er mwyn adlewyrchu eu statws “nid er mwyn elw”.

Cynaliadwyedd

Defnyddir y term hwn mewn nifer o wahanol ffyrdd, ag iddynt ystyron gwahanol e.e. gall gyfeirio at sefydlogrwydd ariannol sefydliad ac at fabwysiadu polisïau ac arferion amgylcheddol, cymdeithasol neu economaidd sy’n lleihau effaith y fenter ar yr amgylchedd.

Datblygu cynaliadwy

Defnyddir y term hwn yn aml i ddisgrifio datblygu sy’n diwallu anghenion y presennol heb effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Yn ôl i’r brig

 

T

Llinell waelod driphlyg

Pan mae mudiad yn rhoi’r un pwys i amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol ag i amcanion ariannol economaidd.

Yn ôl i’r brig

 

U

 

Yn ôl i’r brig

V

Cyfalaf mentro

Yr enw cyffredin yw buddsoddiad cyfalaf – hynny yw, arian am gyfran yn y busnes. Defnyddir y cyfalaf i gyflawni cam nesaf twf busnes, boed hynny’n fusnes newydd neu’n fusnes sy’n tyfu o fod yn fusnes bach i fod yn fusnes canolig. Mae Cyfalaf Mentro yn aml yn prynu cyfran am gyfnod penodol o amser ac mae’n bosib y byddant yn chwilio am ddylanwad ar lefel bwrdd

Mudiad gwirfoddol

Corff hunanlywodraethol o bobl sydd wedi dod at ei gilydd yn wirfoddol i weithredu er lles y gymuned, ac a sefydlwyd am resymau nad oes a wnelo nhw â manteision ariannol. Nid oes rhaid iddo fod yn elusen gofrestredig, ond os nad ydyw, rhaid i nodau, amcanion a dulliau gweithredu’r mudiad gael eu hysgrifennu mewn dogfen sydd ar gael yn gyhoeddus. Dylai’r mudiad fod ar gael i bob aelod o’r gymuned a chanddynt ddiddordebau sy’n berthnasol i’r nodau a nodwyd yn gyhoeddus. Mae’n dibynnu i raddau helaeth ar grantiau a rhoddion ar gyfer ei refeniw.

Yn ôl i’r brig

 

W

• WCwmni cydweithredol y gweithwyr

Mae Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus yn aml yn gwmni cydweithredol ble mai’r aelodau yw gweithwyr y busnes. Yn hynny o beth mae’r gweithwyr yn berchen ar ac yn rheoli’r busnes y maen nhw’n gweithio iddo.

Yn ôl i’r brig

 

X

 

Yn ôl i’r brig

Y

 

Yn ôl i’r brig

Z

 

Yn ôl i’r brig