Mae DTA Cymru’n gweithio’n agos gyda’r DTA yn Lloegr a’r Alban er mwyn ffurfio’r rhwydwaith adfywio cymunedol mwyaf a mwyaf dylanwadol yn y DU.
 

Membership Information on becoming a Development Trust

Full Member Application Form

Associate Member Application Form

Y Broses Ymgeisio
Meini prawf ar gyfer Aelodaeth Lawn o’r Ymddiriedolaeth Ddatblygu
Manteision Aelodaeth
Cefndir i’r Aelodaeth


Trwy ymuno â DTA Cymru gallwch hefyd ddod yn aelod o Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu sy’n ymestyn ar draws y DU.

Y mwyaf y rhoddwch chi …… y mwyaf y cewch

Yr hyn rydych yn ei roi a’r hyn a gewch

Mae DTA Cymru a’r ymddiriedolaeth ddatblygu yn gweithredu ar yr egwyddor o gyffredinoldeb. Wrth i chi ymuno nid yn unig y byddwn yn gofyn am ffi aelodaeth ond rydym hefyd yn disgwyl i chi:

 

  • Rannu profiadau a gwybodaeth gydag aelodau eraill yng Nghymru ac ar draws y DU fel rhan o rwydwaith ymarferwr dysgu’r DTA
  •  
  • Arwyddo i Werthoedd a Chod Ymarfer y DTA
  •  
  • Croesawu ymholiadau ac ymweliadau gan bartïon sydd â diddordeb
  •  
  • Mynychu cynadleddau blynyddol i ‘Aelodau’ yng Nghymru a’r DU
  •  
  • Cynnal rhwydwaith DTA Cymru
  •  
  • Darparu gwybodaeth i DTA Cymru a DTA (UK) am eich mudiad a’ch gwaith
  •  
  • Hyrwyddo ymddiriedolaethau datblygu

 

Manteision Aelodaeth

Fel aelod llawn neu gyfaill gallwch ddisgwyl amrediad o fanteision, yn cynnwys:

  • Gwybodaeth a Cyngor ar lefel Cymru a’r DU
  •  
  • Defnydd o’r rhwydwaith o ymarferwyr ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru ac ar draws y DU
  •  
  • Ymgyrchu cenedlaethol a rhanbarthol ar ran ymddiriedolaethau datblygu
  •  
  • Mynediad i amrywiaeth o gronfeydd grantiau bychain
  •  
  • Gostyngiadau ar gyhoeddiadau a digwyddiadau
  •  
  • Mynediad i’r Cynllun Yswiriant i Aelodau
  •  
  • Gostyngiadau i fynychu cynadleddau yng Nghymru a’r DU, briffio a hyfforddiant
  •  
  • Copi o’r cylchlythyr chwarterol Networker am ddim a gyhoeddir gan DTA (UK) ac e-bwletin gan DTA Cymru..
  •  
  • Pris tanysgrifio is i gylchgrawn New Start
  •  
  • Defnydd o’r gronfa ddata i aelodau ac Allrwyd DTA sy’n galluogi rhannu gwybodaeth a chymorth ar draws y mudiad
  •  
  • Tudalen yn Rhad ac Am Ddim i Aelodau ar wefan DTA Cymru
  •  
  • Hysbyseb 'market Place' am ddim er mwyn hysbysebu eich menter neu wasanaethau ar wefan DTA Cymru..
  •  
  • Defnydd o logo DTA Cymru
  •  
  • Hawl i gymryd rhan ac i bleidleisio o fewn y DTA a DTA Cymru
  •  
  • Mewnbwn ac ymgynghori ar bolisi DTA Cymru a DTA (UK) ac ymateb i ymgynghori gan y llywodraeth
  •  
  • Defnydd o astudiaeth achos sy’n dangos arfer da

Os hoffech chi ymuno â DTA Cymru ewch i’n Tudalen Gais.



Y Broses Ymgeisio
Meini prawf ar gyfer Aelodaeth Lawn o’r Ymddiriedolaeth Ddatblygu
Manteision Aelodaeth
Cefndir i’r Aelodaeth