Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru

Mae DTA Cymru yn sefydliad gydag aelodaeth o ymarferwyr annibynnol sy’n cefnogi’r mudiad ymddiriedolaeth ddatblygu sy’n prysur dyfu yng Nghymru.

Rydym yn rhan o fudiad adfywio cymunedol Cymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu ar draws y DU gyda chwaer sefydliadau yn Lloegr a’r Alban a rhwydwaith fyrlymus o 40 ymddiriedolaeth yng Nghymru a 400 ar draws y DU.

Mae’n aelodau yng Nghymru yn helpu i greu rhai o’n cymunedau mwyaf mentrus, cynaliadwy a chynhwysol wedi’u selio ar sylfaen cadarn o asedau, mentrau a gwasanaethau sy’n berchen i’r gymuned.

Amcan DTA Cymru yw cyflawni ‘ymddiriedolaeth ddatblygu lwyddiannus ymhob cymuned sydd eisiau un’ a ‘creu cyfoeth yn ein cymunedau a’i gadw yno’

Mae ymddiriedolaethau datblygu yn fudiad sy’n prysur dyfu ar draws y DU, erbyn hyn maent yn arwain y ffordd ym maes adfywio cymunedol a mentrau cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae 40 ymddiriedolaeth datblygu (aelodau llawn) a 21 o aelodau cysylltiol yng Nghymru. Mae 400 o aelodau llawn a 150 o aelodau cysylltiol yn y DU.

Amcanion DTA Cymru yw :-

  • Sefydlu ymddiriedolaethau datblygu newydd ymhob cymuned sydd eisiau un.
  •  
  • Darparu cymorth ar gyfer ymddiriedolaethau datblygu presennol i weithredu’n dda ac ehangu eu gwasanaethau, mentrau cymunedol a’u busnesau.
  •  
  • Hybu arferion da o fewn rhwydwaith yr ymddiriedolaeth ddatblygu ac annog eraill i gefnogi ymddiriedolaethau datblygu.
  •  
  • Cefnogi cyfleoedd am fentrau newydd ac ehangu sectorau o fewn ein mudiad
  •  
  • Rhedeg y gymdeithas yn effeithiol