Mae CYD Cymru yn annog Ymddiriedolaethau Datblygu a mentrau cymunedol eraill i feithrin mentrau cymunedol ar gyfer cynaladwyedd tymor hir. Rydym yn ymwneud â nifer o fentrau i hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau mentrau cymunedol.


Rhan o genhadaeth CYD Cymru ydy cynorthwyo ymddiriedolaethau datblygu i weithredu yn fwy effeithiol trwy ddefnyddio dull menter gymunedol. Mae menter gymunedol yn fusnes gydag amcanion cymunedol yn hytrach na rhai ariannol. Mae unrhyw arian dros ben sy’n cael ei gynhyrchu gan fenter gymunedol yn cael ei fuddsoddi yn y lle cyntaf yn y busnes neu’r gymuned, yn hytrach na chael ei arwain gan yr angen i fodloni cyfranddalwyr a pherchnogion. Am nifer o flynyddoedd mae CYD wedi cefnogi’r defnydd o fenter gymunedol fel dull cynaliadwy i fudiadau cymunedol gyflawni eu cenhadaeth gymunedol.


Beth ydy Menter Gymunedol?
Nod Ymddiriedolaethau Datblygu cyflawni adnewyddu cymunedol, economaidd ac amgylcheddol. Rydym yn cyflawni hyn trwy fentrau cymunedol. Mae menter gymunedol yn ein tyb ni, yn golygu:

  • Mudiadau sy’n cael eu harwain gan gymunedau - cymunedau o ran lleoliad a diddordeb.
  • Ethos Hunan Gymorth -er ein bod yn cyflawni llawer mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, busnesau ayyb, rydym yn osgoi dibyniaeth.
  • Y cymunedau eu hunain ydy’r rhai gorau i gynorthwyo eu hadfywiad.
  • Dydy dulliau dyngarol a lles ar eu pennau’i hunain ddim yn ddigon - mae angen mentergarwch ar gyfer newid cynaliadwy.
  • Mae hyn yn golygu masnachu er budd cymdeithasol – lle bydd arian dros ben yn cael ei fuddsoddi mewn datblygiadau pellach ac er budd cymunedol.
  • Gall asedau dan berchnogaeth gymunedol (adeiladau, tir ac asedau eraill) adeiladu cynhwysedd busnes a chyflawni amcanion cymunedol.

I grynhoi, mae menter gymunedol yn golygu creu cyfoeth oddi fewn i gymunedau a’i gadw yno.


Y mudiad mentrau cymunedol


Mae’r mudiad mentrau cymunedol ynddo'i hun yn rhan o fudiad mentrau cymdeithasol ehangach (yn cynnwys cwmnïau cymdeithasol, cwmnïau cydweithredol, cwmnïau cilyddol fel, er enghraifft The Big Issue neu Divine Chocolate).

alt

Ein Gwerthoedd
Credwn fod menter gymunedol yn seiliedig ar werthoedd. Dyma werthoedd CYD:

  • Credwn mewn annog a chefnogi pobl i fod yn gyfrifol am adnewyddu eu cymunedau
  • Rydym o blaid bod yn atebol i bobl leol, yn ogystal â gweithredu ar y cyd ac mewn partneriaeth
  • Rydym yn cydnabod yr amrywiaeth sydd mewn cymunedau ac yn gweld hyn fel arwydd o gryfder
  • Rydym yn gwerthfawrogi adfywiad cynaliadwy, sy’n mynd i’r afael ag anghenion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cymuned, ac sydd yn ymwneud â chreu cyfoeth ar gyfer cymunedau, gan gymunedau.