Mae DTA Cymru yn cynnal ac yn hybu ymddiriedolaethau datblygu sy’n fudiadau lleol yn defnyddio dulliau arloesol er mwyn creu a chyflwyno adfywiad hirdymor yn eu cymunedau.
Mae’r cymorth a’r gwasanaethau a gynigir gan DTA Cymru yn cynnwys:
- Cymorth i ymddiriedolaethau datblygu newydd a rhai sydd ar fin dechrau yng Nghymru i dyfu ac adeiladu eu mudiadau, gwasanaethau a mentrau.
-
- Cymorth ar gyfer ymarferwr ‘Rhwydwaith Dysgu’ a datblygu cyfnewid sgiliau a gwybodaeth ymysg ymarferwyr a mudiadau.
- Hyrwyddo ein haelodau a’u llwyddiannau a’u gwasanaethau a chodi ymwybyddiaeth o Ymddiriedolaethau Datblygu trwy’r wefan hon a chyhoeddiadau.
- Hyrwyddo a chynorthwyo YsgolAdfywio Cymru
- Datblygu astudiaethau achos sy’n dangos arfer gorau.
- Trefnu hyfforddiant, cynadleddau a digwyddiadau er mwyn cynnal ymddiriedolaethau datblygu: a dysgu a datblygu ar gyfer Mentrau cymdeithasol
- Hyrwyddo a chynorthwyo gyda ‘Asset Development’ and ‘Asset Transfer’ a berchenogir gan y gymuned.
- ‘Healthcheck’ ansawdd i’n haelodau a hyrwyddo a chymorth ar gyfer Social Accounting and Audit a ffyrdd eraill o fesur a chasglu’r effaith rydym yn ei gael.
- Cyngor i ymddiriedolaethau datblygu sydd ar fin cychwyn a mudiadau cymunedol ar fentrau cymdeithasol a chymunedol ac ar gynyddu masnach ac incwm.
- Denu busoddiad o’n sector (a Mentrau cymdeithasol a chymunedol)
- Dylanwadu ar ddatblygu polisi a chynorthwyo’r rhai sy’n llunio polisïau i ddeall ein sector.
- Gweithio gydag eraill sy’n rhannu’r un gwerthoedd a gweledigaeth.
Fel mudiad sydd ag aelodau gall Aelodau Llawn ac Aelodau Cyfaill gyda DTA ddefnyddio amrediad o wasanaethau penodol.
Aelodaeth
Fel Aelod Llawn gallwch ddisgwyl derbyn amrediad o fanteision, yn cynnwys:
- Aelodaeth o un o’r mudiadau mwyaf dylanwadol ym maes mentrau ac adfywiad cymunedol
- Gwybodaeth a Chyngor ar lefel Cymru a’r DU
- Defnydd o rwydwaith o ymarferwyr ymddiriedolaeth ddatblygu sy’n estyn ar draws Cymru a’r DU
- Ymgyrchu cenedlaethol a rhanbarthol ar ran ymddiriedolaethau datblygu
- Mynediad i amrywiaeth o gronfeydd grantiau bychain
- Gostyngiadau ar gyhoeddiadau a digwyddiadau
- Defnydd Cynllun Yswiriant i Aelodau
- Gostyngiadau er mwyn mynychu cynadleddau yng Nghymru a’r DU, seminarau, digwyddiadau briffio a hyfforddiant
- Cylchlythyr am ddim ar gyfer y DU – Networker – cyhoeddir yn chwarterol gan DTA (DU). Bwletin bob dau fis gan DTA Cymru.
- Defnydd o’r gronfa ddata i aelodau ac Allrwyd y DTA sy’n galluogi i chi gyfnewid gwybodaeth a phrofiadau ar draws y sefydliad
- ‘Tudalen Aelodau’ am ddim ar wefan DTA Cymru er mwyn hyrwyddo eich ymddiriedolaeth a’ch gwasanaethau
- Defnydd o logo DTA Cymru
- Hawl i gymryd rhan a phleidleisio o fewn y DTA a DTA Cymru
- Mewnbwn ac ymgynghori ar bolisïau DTA Cymru a DTA (DU) ac ymateb i ymgynghori gan y llywodraeth
- Defnydd o astudiaethau achos o arfer da
Fel Aelod Cyfaill gallwch ddisgwyl y manteision canlynol:
- Aelodaeth o un o’r mudiadau mwyaf dylanwadol ym maes mentrau ac adfywiad cymunedol ation
- Defnydd o rwydwaith o ymarferwyr ymddiriedolaeth ddatblygu sy’n estyn ar draws Cymru a’r DU
- Gostyngiadau ar gyhoeddiadau a digwyddiadau
- Gostyngiadau er mwyn mynychu cynadleddau yng Nghymru a’r DU, seminarau, digwyddiadau briffio a hyfforddiant
- Cylchlythyr am ddim ar gyfer y DU – Networker – cyhoeddir yn chwarterol gan DTA (DU). Bwletin bob dau fis gan DTA Cymru.
- Aelodaeth cyfaill am ddim ar gronfa ddata a gwefan Aelodau DTA Cymru er mwyn hyrwyddo eich mudiad a’i wasanaethau
- Hawliau pleidleisio cyfyngedig ar DTA Cymru a DTA ar gyfer etholiadau Cyfarwyddwr Cyfaill
- Mewnbwn ac ymgynghori ar bolisïau DTA Cymru a DTA (DU) ac ymateb i ymgynghori gan y llywodraeth