Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru

Rhwydwaith Mentrau ac Adfywio Cymunedol

'creu cyfoeth yn ein cymunedau a’i gadw yno'

Cymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu yw’r rhwydwaith mentrau ac adfywio cymunedol ar draws y DU. Fe’i ffurfiwyd yn 1992 gan ymarferwyr etholedig o aelodau’r ymddiriedolaethau datblygu. Mae nifer o’r Ymddiriedolaethau Datblygu yng Nghymru yn aelodau sefydlol o Gymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA).

Roedd sefydlu Cymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu yn ymateb i ymddiriedolaethau datblygu a chymunedau a oedd yn ymroddedig i adfywiad hir dymor eu cymdogaethau ond yn teimlo’n unig ac anwybodus am arferion da oedd mewn mannau eraill. Credent fod llawer i’w elwa drwy rwydweithio gydag eraill sy’n rhannu gweledigaethau ac amcanion tebyg a thrwy gael llais ar lefel cenedlaethol.

Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru yn cynnig cymorth ac yn gorff aelodaeth ar gyfer y rhwydwaith o ymddiriedolaethau datblygu sy’n prysur ehangu a ffynnu yng Nghymru. Sefydlwyd yn Ionawr 2003, gyda chymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, er mwyn cynnig cymorth, yng Nghymru, i’r rhwydwaith bresennol o ymddiriedolaethau datblygu gael gweithredu’n dda ac ehangu eu gweithgareddau, er mwyn cynorthwyo cymunedau a sefydliadau sy’n dymuno sefydlu ymddiriedolaethau datblygu newydd ac i hybu arferion da a rhwydwaith ddysgu gan ymarferwyr yng Nghymru.

Ers 1992, cyn sefydlu Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, roedd yr holl gymorth ar gyfer y rhwydwaith ymddiriedolaethau datblygu yng Nghymru, cyfnewid arferion da a chymorth ar gyfer ymddiriedolaethau newydd yng Nghymru yn cael ei ddarparu, gan fwyaf, drwy ymdrech gwirfoddol yr Ymddiriedolaethau eu hunain.

Mae rôl Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru yn berthnasol, ac yn gyfrannwr allweddol, i Strategaeth Mentrau Cymdeithasol ar Gyfer Cymru, rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, Cymru: Economi yn Ffynnu ac agendau Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru.