Cymunedau’n Cefnogi Cymunedau

print

Erbyn hyn mae mwy a mwy o gymunedau’n creu eu sefydliadau eu hunain i helpu i newid y tuedd o ddirywiad cymdeithasol ac economaidd a meithrin adnewyddu cymdeithasol.

Mae ymddiriedolaethau datblygu’n helpu i feithrin ysbryd newydd o fenter ym mherchnogaeth y gymuned, sy’n helpu i greu cyfoeth yn ein cymunedau. Maent wedi galluogi i nifer o gymunedau ail-lansio eu hunain ar lwybr tuag at dwf a datblygu cynaliadwy.

Mae cymunedau gweithredol, mentrau cymdeithasol a datblygu asedau ym mherchnogaeth y gymuned yn flociau adeiladu hanfodol ar gyfer newid hir dymor cynaliadwy. Erbyn hyn mae’r syniad o fenter gymdeithasol a chymunedol wedi’i osod yn gadarn ar y map.

Gwerthoedd CYD Cymru:

  • Credwn y mae menter gymunedol wedi’i gyrru gan werth.
  • Credwn ei bod yn bwysig annog a chefnogi pobl i gymryd cyfrifoldeb dros adnewyddu eu cymunedau eu hunain.
  • Rydym yn sefyll dros atebolrwydd i bobl leol, yn ogystal â chydweithredu a phartneriaethau.
  • Rydym yn adnabod yr amrywiaeth sy’n bodoli mewn cymunedau ac rydym yn ystyried hyn fel ffynhonnell o nerth
  • Rydym yn gwerthfawrogi adfywio cynaliadwy, sy’n mynd i’r afael ag anghenion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cymuned, ac sy’n cynnwys creu cyfoeth ar gyfer cymunedau gan gymunedau.

Fel corff cefnogi, mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu yn defnyddio dull cymorth gan gymheiriaid lle’n bosib er mwyn cyflawni adfywio a arweinir gan y gymuned mewn cymunedau ar draws Cymru. Mae ein rhwydwaith a’n symudiad yn cynnwys datblygwyr asedau ac ymarferwyr menter gymdeithasol hynod brofiadol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig. Rydym yn defnyddio arbenigedd a gwybodaeth ein Haelodau, a rhai ein chwaer sefydliadau sef Locality yn Lloegr, DTAS yn yr Alban a DTNI yng Ngogledd Iwerddon, i helpu mentrau cymunedol newydd a’r rheiny sy’n derbyn ac yn datblygu asedau ym mherchnogaeth y gymuned.

Ystyr cymorth gan gymheiriaid yw pobl sydd â phrofiad uniongyrchol, llaw gyntaf o sefydlu a rhedeg mentrau cymdeithasol, neu drafod a gweithredu asedau ym mherchnogaeth y gymuned. Nid yn unig y rheiny sy’n gallu siarad amdano, ond y rheiny sy’n gallu ei roi ar waith yn ogystal.

Yn ein holl waith drwyddo draw, rydym yn cefnogi gweithgarwch newydd trwy weithio wrth ochr eich sefydliad cymunedol a dod yn “ffrind beirniadol” i chi. Nid ydym yno i wneud y gwaith drosoch chi neu’ch grŵp. Yn hytrach, mae’r cymorth rydym yn ei gynnig oddi mewn i’n rhwydwaith yn galluogi i’ch grŵp gyflawni’r hyn y mae ei angen arno ar ei ben ei hun ac yn fwy effeithiol. Yn y pendraw, caiff y wybodaeth a’r profiad hwnnw ei drosglwyddo, fel y byddwch yn dysgu gan y camgymeriadau ac yn elwa o’r gwersi a ddysgwyd gan bobl eraill.

Defnyddir y dull cymorth gan gymheiriaid ar bob un o’n Rhaglenni a’n gweithgareddau cyfredol. Ymhlith y rhain mae:

  • Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: Cefnogi cymunedau i brynu asedau sy’n eiddo i’r gymuned sydd mewn perygl o gau
  • Egin: Helpu cymunedau i daclo newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy
  • Busnes Cymdeithasol Cymru: Cefnogi busnesau cymdeithasol newydd a thyfu. Mae DTA Cymru yn aelod llawn o’r consortiwm ochr yn ochr â Cwmpas, UnLtd a Social Firms Wales.

Os oes gennych chi fenter gymdeithasol a phrofiad cymunedol y credwch y byddai’n ddefnyddiol ei rannu â grwpiau eraill, darllenwch fwy am ein proses recriwtio a gwnewch gais i ymuno â’n cronfa o Fentoriaid Cymheiriaid.

Hefyd defnyddiwyd y dull  wrth gyflenwi’r Rhaglen Gymorth SOS i Bentrefi ac yn ystod ymweliad i archwilio arfer da ym maes Cartrefi a Arweinir gan y Gymuned.

Gallwn hefyd defnyddio Cronfa CYD Cymru ar gyfer gwaith ymgynghori arall sy’n ymwneud ag adfywio a arweinir gan y gymuned, menter gymunedol a gweithgareddau datblygu cynaliadwy. Mae Cronfa CYD Cymru’n cynnwys Staff, Aelodau a Chysylltiadau sydd â phrofiad mewn amrywiaeth o feysydd o asedau ym mherchnogaeth y gymuned a datblygu asedau, mentrau cymdeithasol, llywodraethiant, cynllunio busnes, cyllid ar gyfer mentrau cymunedol, marchnata, asesu risg, rheoli eiddo ac ystod eang o faterion eraill sy’n ymwneud ag adfywio. Rydym hefyd yn cyflawni darnau o waith unigol yn ogystal â chontractau tymor hirach.

Cysylltwch â ni am wybodaeth bellach ac i dderbyn dyfynbris am ddim ar gyfer defnyddio Cronfa CYD Cymru.